Jeremiah 31

Israel yn dod adre

1“Bryd hynny,” meddai'r Arglwydd, “fi fydd Duw pob llwyth yn Israel, a byddan nhw yn bobl i mi.”

2Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Cafodd pobl Israel osgoi'r cleddyf
a profi ffafr Duw yn yr anialwch,
wrth iddyn nhw chwilio am le i orffwys.
3Roedd yr Arglwydd wedi ymddangos iddo mewn gwlad bell,
a dweud, ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth,
a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti.
4Bydda i'n dy ailadeiladu eto, o wyryf annwyl Israel!
Byddi'n gafael yn dy dambwrîn eto,
ac yn mynd allan i ddawnsio a joio.
5Byddi'n plannu gwinllannoedd
ar fryniau Samaria unwaith eto.
A'r rhai fydd yn eu plannu
fydd yn cael mwynhau eu ffrwyth.
6Mae'r amser yn dod pan fydd y gwylwyr
yn gweiddi ar fryniau Effraim
31:6 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
:
“Dewch! Gadewch i ni fynd i fyny i Seion
i addoli'r Arglwydd ein Duw.”’”

7Ie, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Canwch yn llawen dros bobl Israel,
a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf.
Gweiddi ac addoli gan ddweud,
‘Achub dy bobl, o Arglwydd,
achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’
8‘Ydw, dw i'n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd
31:8 dir y gogledd Asyria, lle cafodd pobl Israel eu cymryd yn gaethion yn 722 CC, a Babilon, lle byddai pobl Jwda yn cael eu cymryd yn gaethion yn 586 CC
;
dw i'n mynd i'w casglu nhw o ben draw'r byd.
Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw;
gwragedd beichiog hefyd, a'r rhai sydd ar fin cael plant.
Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma.
9Byddan nhw'n dod yn eu dagrau,
yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl.
Bydda i'n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵr
ac ar hyd llwybrau gwastad ble byddan nhw ddim yn baglu.
Fi ydy tad Israel;
Effraim ydy fy mab hynaf.’”
10Gwrandwch ar neges yr Arglwydd, chi'r cenhedloedd i gyd,
a'i gyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a'r ynysoedd:
“Bydd yr Arglwydd, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl,
yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhw
fel bugail yn gofalu am ei braidd. c
11Mae'r Arglwydd yn mynd i ryddhau pobl Jacob.
Bydd yn eu gollwng nhw'n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw.
12Byddan nhw'n dod gan ganu'n frwd ar fynydd Seion.
Byddan nhw'n wên i gyd am fod yr Arglwydd mor dda.
Mae'n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd,
ŵyn a lloi bach.
Mae'n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi ei dyfrio.
Fyddan nhw byth yn teimlo'n llesg a blinedig eto.
13Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen,
a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd.
Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd.
Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.
14Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau,
a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da,

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

15Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae cri i'w chlywed yn Rama
31:15 Rama Tref oedd ryw 5 milltir i'r gogledd o Jerwsalem. Yn yr ardal yna, mewn lle o'r enw Seltsach, y cafodd Rachel (mam Joseff a Benjamin) ei chladdu (1 Samuel 10:2).
,
sŵn wylo chwerw a galaru mawr –
Rachel yn crïo am ei phlant.
Mae'n gwrthod cael ei chysuro,
am eu bod nhw wedi mynd.”

16Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau.
Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith.
Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.
17Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r Arglwydd
“Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain.
18Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist,
‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi.
Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers.
Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti.
Ti ydy'r Arglwydd ein Duw ni.
19Roedden ni wedi troi cefn arnat ti,
ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl.
Ar ôl gweld ein bai
roedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion!
Roedd gynnon ni gywilydd go iawn
am y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’
Yr Arglwydd:
20Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi!
Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i.
Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw,
dw i'n dal yn eu caru nhw.
Mae'r teimladau mor gryf yno i,
alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Jeremeia:
21O wyryf annwyl Israel! Cofia'r ffordd aethost ti.
Gosod arwyddion, a chodi mynegbyst
i ganfod y ffordd yn ôl.
Tyrd yn ôl! Tyrd adre
i dy drefi dy hun.
22Am faint wyt ti'n mynd i oedi,
ferch anffyddlon?
Mae'r Arglwydd yn creu rhywbeth newydd –
mae fel benyw yn amddiffyn dyn!

Llwyddiant pobl Dduw

23Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:

“Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw,
a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem:
‘O fynydd cysegredig ble mae cyfiawnder yn byw,
boed i'r Arglwydd dy fendithio di!’

24Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto.

Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.
25Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino,
ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”

26Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Roeddwn i wedi bod yn cysgu'n braf!

27“Mae'r amser yn dod,” meddai'r Arglwydd, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto. 28Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” e meddai'r Arglwydd.

29“Bryd hynny fydd pobl ddim yn dweud pethau fel:

‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion
ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’

30Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy'n bwyta'r grawnwin surion fydd yn diodde'r blas drwg.”

Ymrwymiad newydd Duw

31“Mae'r amser yn dod,” meddai'r Arglwydd, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda. 32Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw. 33Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r Arglwydd: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. f Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. 34Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.”

35Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud –
yr un sydd wedi gosod trefn i'r haul roi golau yn y dydd
a'r lleuad a'r sêr roi eu golau yn y nos; g
yr un sy'n corddi'r môr yn donnau mawrion –
yr Arglwydd holl-bwerus ydy ei enw e:
36“Byddai dileu pobl Israel fel cenedl
yr un fath â chael gwared â threfn natur!”

37Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae'n amhosib mesur yr awyr a'r gofod,
neu archwilio sylfeini'r ddaear.
Mae'r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israel
am bopeth drwg maen nhw wedi ei wneud,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

38“Mae'r amser yn dod,” meddai'r Arglwydd, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel. 39Bydd ei ffiniau yn ymestyn i'r gorllewin at Fryn Gareb ac yna'n troi i'r de i lawr i Goath. 40Bydd hyd yn oed y dyffryn ble cafodd yr holl gyrff marw a'u lludw eu taflu, a'r holl gaeau i lawr at Nant Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o'r ddinas fydd wedi ei chysegru i'r Arglwydd. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na'i bwrw i lawr byth eto.”

Copyright information for CYM